Skip to Main Content
Search

Search

LAMP FEIC ASETYLEN

Lamp feic asetylen

Mae dwr yn y cynhwysydd uchaf a phowdwr carbeid calsiwm yn yr un isaf. Rhaid troi tap ymlaen i adael i'r dwr ddiferu ar y powdwr i gynhyrchu nwy asetylen sy'n cael ei losgi tu ôl i'r clawr gwydr.

Mae clamp a sbring arno i'w ddal yn sownd i'r beic rhag iddo ysgwyd gormod.

Lamp 'Aceta' a wnaed gan Joseph Lucas Cyf. o ddinas Birmingham ar ôl 1910 tan tua 1918. Mae'r falf rheoli d?r ar goll.

Defnyddiwyd llawer ar y lampau yma yn ystod yr Ail Ryfel Byd adeg y 'black out'. Fe baentiwyd bron y cyfan o'r clawr blaen yn ddu i gael digon o olau i weld eich hun ac i weld y ffordd o'ch blaen.

ASETYLEN