- RYDYCH CHI MEWN:
- Y CASGLIAD AMGUEDDFA >
- GWAITH TY >
- COGINIO
COGINIO
Roedd y llefydd tân cyntaf ar ganol llawr yr ystafell o arwyddocad emosiynol a defodol. Ni symudwyd y pentanfaen unwaith yr oedd wedi ei osod yn ei le a hyd yn oed pe bai'r ty yn cael ei ddinistrio gadawyd y pentanfaen yn ei le fel arwydd parhaol fod y safle wedi bod yn dy anndd ar un adeg.Ni ddiffoddai'r tân tra byddai rhywun yn byw ynddo ac fe'i huddwyd bob nos. Pan oedd bwyd yn cael ei goginio ar y tân hwn, gosodwyd cigwain ar ei draws o'r pentanfaen i'r pentanhaern, neu gi tân. Rhostiwyd y bwyd ar i gweiniau hyn neu ei ferwi mewn crochan oedd yn crogi wrth fachyn uwchben y tân. Pan roddodd yr aelwyd ganolog ei lle i'r aelwyd wrth y wal daeth dulliau mwy soffistigedig i fod ac fe gafwyd craeniau ellid eu troi i ddal y crochenni mawr uwchben y tân. Defnyddiwyd potiau bychan neu ffwrn fach i grasu bara.